National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Health and Social Care Committee/ Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Public Health (Wales) Bill/ Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

 

Evidence from Gwynedd Council – PHB 81 / Tystiolaeth gan Cyngor Gwynedd – PHB 81

 

YMGYNGHORIAD Y PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL  AR EGWYDDORION CYFFREDINOL Y BIL IECHYD Y CYHOEDD(CYMRU)

 

Cyflwyniad o sylwadau gan adran Rheoleiddio, Cyngor Gwynedd

Cyflwynir y sylwadau isod yn bennaf o bersbectif Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd fydd yn bennaf gyfrifol am orfodi agweddau sylweddol o’r Bil pan fydd yn cael ei gyflwyno fel Deddf Gwlad. Yn gyffredinol, mae’r Cyngor yn cefnogi mesurau pellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i atgyfnerthu pwerau gorfodaeth mewn perthynas  â’r  meysydd pwysig  hyn sydd yn effeithio ar iechyd y cyhoedd.

RHAN 2 : Tybaco a chynhyrchion nicotin

Mae Rhan 2 o'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â thybaco a chynhyrchion nicotin, ac mae'r rhain yn cynnwys gosod cyfyngiadau er mwyn sicrhau bod y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin megis sigaréts electronig (e-sigaréts) yn cyd-fynd â'r cyfyngiadau presennol ar ysmygu; creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin; a gwahardd trosglwyddo tybaco neu gynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed.

 

Cwestiwn – A ydych yn cytuno y dylai’r defnydd o e-sigarets gael ei wahardd mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig yng Nghymru , yn yr un modd ag y mae tybaco sy’n cael ei wahardd ar hyn o bryd?

Rydym yn cefnogi ymestyn gwaharddiad i ddefnydd o e sigaréts mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig os yw'r dystiolaeth yn dangos fod y cynhyrchion hyn yn beryglus i iechyd. Diben y rheoliadau gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yw gwahardd cynhyrchion tybaco gan fod tystiolaeth benodol fod tybaco yn niweidiol. Nid oes tybaco mewn e sigaréts; ond mae angen ymchwil pellach ynglŷn â diogelwch y cynhyrchion nicotin a’r cynhwysion eraill sydd yn gallu cael eu cynnwys yn yr hylifau a ddefnyddir ar gyfer e sigaréts.

Cytunir yn llwyr yn dylid gwahardd defnydd e sigaréts sydd gydag edrychiad sigarennau confensiynol; gan y gall eu defnydd mewn mannau cyhoeddus  normaleiddio ysmygu unwaith eto. Fe all eu defnydd hefyd annog plant a phobl ifanc i ysmygu; ond nid yw'r dystiolaeth yn glir yn hyn o beth.

Mae e sigaréts sydd yn edrych fel sigaréts confensiynol yn gallu tanseilio ymdrechion awdurdodau lleol i orfodi'r ddeddfwriaeth mannau cyhoeddus di - fwg. Mae hefyd yn anodd i berchnogion a rheolwyr busnesau i weithredu’r ddeddfwriaeth os oes unigolion yn defnyddio e sigaréts sydd yn debyg i sigaréts confensiynnol.

Cwestiwn - Beth yw eich barn ar ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu ac e-sigaréts i rai mannau nad ydynt yn gaeedig (gallai enghreifftiau gynnwys tir ysbytai a meysydd chwarae i blant)?

 

Rydym o’r farn y dylid parhau i annog busnesau a sefydliadau i beidio caniatáu ysmygu mewn unrhyw le agored cyhoeddus. Credir y dylid cyfyngu pwerau gorfodaeth mewn mannau cyhoeddus lle mae Plant neu bobl fregus yn ymgynnull er enghraifft parciau a chaeau chware; ffeiriau, tir o gwmpas ysgolion ac ysbytai.

 

 Cwestiwn - A ydych yn credu y bydd y darpariaethau yn y Bil yn sicrhau cydbwysedd rhwng y manteision posibl i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi ac unrhyw anfanteision posibl sy'n gysylltiedig â'r defnydd o e-sigaréts?

Ydym. Mae angen monitro'r dystiolaeth yn ofalus i sicrhau nad ydyw defnydd o e sigaréts yn annog pobl i ysmygu, a bod e sigaréts yn cael eu defnyddio fel teclyn i geisio rhoi’r gorau i ysmygu yn unig.

 

Cwestiwn - A oes gennych farn ynghylch a yw'r defnydd o e-sigaréts yn ail-normaleiddio ysmygu mewn mannau di-fwg, ac o ystyried eu bod yn efelychu sigaréts o ran eu hymddangosiad, a ydynt yn hyrwyddo ysmygu yn

anfwriadol?

Mae yna bryder fod defnydd o e sigaréts yn enwedig rhai sydd wedi eu cynllunio i edrych fel sigaréts confensiynol yn ‘normaleiddio’ ysmygu ac agwedd pobl tuag at ysmygu. Yn dilyn cyflwyno’r gwaharddiad i ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig; mae newid sylweddol wedi bod mewn diwylliant o ran ysmygu; ac mae yna berygl fod annog a chaniatáu defnydd o e sigaréts yn tanseilio'r gwaith sydd wedi ei wneud yn hyn o beth.

 

Cwestiwn - A oes gennych unrhyw farn ynghylch a fydd cyfyngu ar y defnydd o e sigaréts mewn mannau di-fwg cyfredol yn cynorthwyo rheolwyr mangreoedd i orfodi'r drefn dim ysmygu bresennol?

 

Oes. Rydym wedi sylwi fod rhai eiddo trwyddedig wedi cyflwyno polisïau eu hunain i wahardd cwsmeriaid a staff rhag defnyddio e sigarets mewn mannau caeedig o’u heiddo. Mae'r camau hyn wedi eu cymryd mewn ymateb  i’r problemau mae defnydd e sigarets yn eu creu i reolwyr safleoedd sydd yn ceisio sicrhau fod y gwaharddiad ysmygu yn cael ei weithredu. Mae defnydd e sigarets yn creu dryswch ymysg y cyhoedd; yn enwedig pan mae’r cyfarpar yn edrych fel sigarets electronig.

 

 

 Cwestiwn - A oes gennych farn ynglŷn â lefel y dirwyon i'w gosod ar berson sy'n euog o droseddau a restrir o dan y Rhan hon?

 

Dylid sicrhau fod y ddarpariaeth gorfodaeth mewn perthynas â Rhybuddion Cosb Penodedig ac yn y blaen , yn gyson gyda darpariaeth gorfodaeth  a dirwyon mewn perthynas â’r gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig.

 

 Cwestiwn - A ydych yn cytuno â'r cynnig i greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin?

Nid yw yn glir lle mae’r dystiolaeth  o’r buddiant iechyd cyhoeddus o  sefydlu cofrestr genedlaethol. Mae data cyfredol yn cael ei gadw gan bob Awdurdod Lleol ynglŷn â manwerthwyr sydd yn gwerthu cynhyrchion sydd gyda chyfyngiadau oedran beth bynnag. Mi fyddai sefydlu trefn o’r fath yn gostus; a ddim yn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i dargedu adnoddau ar unigolion sydd yn gwerthu cynhyrchion tybaco yn anghyfreithlon.

 

A ydych yn credu y bydd sefydlu cofrestr yn helpu i amddiffyn pobl o dan 18 oed rhag cael mynediad i dybaco a chynhyrchion nicotin?

 

Os mai’r prif nod yw hwyluso gorfodi deddfwriaeth mewn perthynas â gwerthu i rai o dan 18 a gorfodi’r rheoliadau mewn perthynas â arddangos cynnyrch tybaco; nid yw yn glir sut y gall cofrestr o’r fath lwyddo at bwrpas y dibenion hyn.

 

Bydd y gofrestr yn gynllun costus ac angen ei orfodi ymhellach a bydd masnachwyr cydwybodol yn cael eu cosbi oherwydd masnachwyr diegwyddor. Nid ydym yn meddwl bod cofrestr o’r fath yn mynd i leihau gwerthu dan oed os nad oes darpariaeth ar gyfer cryfhau’r drefn gyfredol o gosbi manwerthwyr sy’n troseddu.

 

Mae’r wybodaeth am y  mwyafrif sy’n gwerthu sigaréts eisoes gennym ar fasdata ac os oes cofrestr yn cael ei greu, nid yw’r gwerthwyr anghyfreithlon am gofrestru sy’n debyg iawn i’r sefyllfa bresennol.

 

 Cwestiwn - Beth yw eich barn ynglŷn â chreu trosedd newydd ar gyfer trosglwyddo tybaco a chynhyrchion nicotin yn fwriadol i berson o dan 18 oed, sef yr oedran gwerthu cyfreithiol yng Nghymru?

 

Rydym yn cefnogi’r bwriad gan y bydd yn gosod trefn fel y gweithredir mewn perthynas â gwerthiant alcohol.

 

Cwestiwn -  A ydych yn credu y bydd y cynigion yn ymwneud â thybaco a chynhyrchion nicotin a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Ydym. Ein pryder mwyaf yw sicrhau nad ydyw defnydd e sigarets yn tanseilio ymdrechion Awdurdodau Lleol i orfodi deddfwriaeth gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig; ac nad ydyw defnydd e sigarets yn annog pobl i gychwyn ysmygu ac yn normaleiddio ysmygu cyhoeddus yn ein cymdeithas unwaith eto.

 

 

RHAN 3: Triniaethau Arbennig

Mae Rhan 3 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth i greu system drwyddedu orfodol, genedlaethol ar gyfer ymarferwyr sy'n darparu triniaethau arbennig penodol yng Nghymru, sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio.

 

Cwestiwn -  Beth yw eich barn ynglŷn â chreu system drwyddedu orfodol, genedlaethol ar gyfer ymarferwyr sy'n darparu triniaethau arbennig penodol yng Nghymru, a bod yn rhaid i'r fangre neu'r cerbyd lle mae ymarferwyr yn gweithredu fod wedi ei gymeradwyo?

 

Credir mai dyma yw'r r argymhelliad yn y Bil sydd fwyaf tebygol o gael effaith bositif ar iechyd cyhoeddus, a diogelu’r cyhoedd oddi wrth ymarferion peryglus.

Mae’r pwerau a argymhellir yn cynnwys creu trosedd uniongyrchol o fethu a chofrestru, ynghyd ag ystod eang a chynhwysfawr o bwerau gorfodaeth effeithiol. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn annigonol i fynd i’r afael ar broblem o weithredwyr angyfreithlon - ac felly rydym yn methu yn ein hymdrechion i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddeddfwriaethau nad ydynt wedi eu creu yn bwrpasol ar gyfer targedu gweithredwyr angyfreithlon.

 

 

Cwestiwn - A ydych yn cytuno â'r mathau o driniaethau arbennig a ddiffinnir yn y Bil?

Ydym. Cefnogir y bwriad i gynnwys Aciwbigo, Tatwio, Tyllu Croen ac Electrolysis. Rydym o’r farn y dylid ehangu'r diffiniad i sicrhau fod y ddeddfwriaeth yn ymestyn pwerau gorfodaeth i amryw o driniaethau newydd sydd yn cynyddu’r risg o haint drwy dreiddio’r croen i mewn i’r cnawd . Argymhellir fod  y darpariaethau gorfodaeth yn cael eu geirio fel bod posib ychwanegu triniaethau newydd yn y dyfodol - fel mae tystiolaeth o’r angen i reoleiddio triniaethau arbennig yn dod i’r amlwg.

 

Cwestiwn -  Beth yw eich barn ar y ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r rhestr o driniaethau arbennig drwy is-ddeddfwriaeth?

Cytunir y dylid sicrhau pwerau i ddiwygio’r rhestr o driniaethau arbennig am y rhesymau sydd wedi eu nodi uchod.

 

Cwestiwn -  Mae'r Bil yn cynnwys rhestr o broffesiynau penodol sy'n esempt o'r angen i gael trwydded i roi triniaethau arbennig. A oes gennych unrhyw farn

ynglŷn â'r rhestr?

Rydym yn cytuno fod angen cynnwys rhestr o broffesiynau penodol sydd angen ei heithrio o’r gofynion. Mae’r proffesiynau hyn yn ymarfer hylendid da a gyda chanllawiau effeithiol mewn lle o ran atal ymledaeniad afiechydon heintus. Mae’r proffesiynau hyn yn cael eu rheoleiddio gan gyrff proffesiynol penodol; ond os penderfynir fod triniaeth arbennig yn disgyn tu allan i ystod eu cymwysterau, cefnogir yr argymhelliad i ystyried hyn yn y ddeddfwriaeth.

 

Cwestiwn -  A oes gennych unrhyw farn ynghylch a fyddai gorfodi'r system drwyddedu yn arwain at unrhyw anawsterau penodol i awdurdodau lleol?

 

Fe fyddai gorfodi’r system drwyddedu arfaethedig yn caniatáu i awdurdodau lleol i ymgymryd â’u dyletswyddau gwarchod y cyhoedd yn fwy effeithiol. Mae sefydlu cyfundrefn drwyddedu hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol i adennill costau er mwyn sicrhau fod posib ariannu’r elfennau hyn o’r gwasanaeth. Mae’r argymhellion yn cryfhau pwerau gorfodaeth mewn perthynas â gweithredwyr cyfreithlon, ac yn cyflwyno pwerau pwrpasol newydd er mwyn gwarchod y cyhoedd rhag ymarferion peryglus gweithredwyr anghyfreithlon.

 

 Cwestiwn - A ydych yn credu y bydd y cynigion yn ymwneud â thriniaethau arbennig a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

 

Ydym. Credir fod gan yr argymhellion a gynhwysir mewn perthynas â thriniaethau arbennig botensial sylweddol i gyfrannu at wella iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Yn ein barn ni; dyma’r argymhelliad mwyaf grymus ac effeithiol sydd yn cael ei gynnwys yn y Bil. Mae’r dystiolaeth o’r risgiau i iechyd y cyhoedd mewn perthynas â unrhyw driniaeth sydd yn tyllu drwy’r croen yn glir. Mae risg gwirioneddol o halogiad oddi wrth firysau a gludir yn y gwaed a all beryglu iechyd gydag ymarferion o’r fath. Mae rheolaeth gyfredol o’r triniaethau hyn yn annigonol; ac mae angen y grymoedd ychwanegol hyn i wahardd pobl nad ydynt yn gymwys i ymarfer y triniaethau hyn. Rydym hefyd angen y grymoedd arfaethedig i sicrhau fod y triniaethau hyn yn cael eu cynnal mewn modd hylan fel y gellir rheoli'r risg o halogiad.

 

Rhan 4: Rhoi Tyllau Mewn Rhannau Personol o'r Corff

Mae Rhan 4 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth i wahardd rhoi tyllau mewn rhan bersonol o'r corff i unrhyw un o dan 16 oed yng Nghymru.

 

Cwestiwn - A ydych yn credu bod angen cyfyngiad oedran ar roi tyllau mewn rhannau personol o'r corff? Beth yw eich barn ynglŷn â gwahardd rhoi tyllau mewn rhannau personol o'r corff i unrhyw un o dan 16 oed yng Nghymru?

 

Ydym. Mae’n rhaid sicrhau fod pobl ifanc o dan 16 yn cael eu diogelu  - nid yw ymarferion tyllu rhannau personol o’r corff yn briodol o gwbl ar gyfer rhai o dan 16 ac fe ddylai’r ymarferion hyn  fod yn anghyfreithlon.

 

Cwestiwn  - A ydych yn cytuno â'r rhestr o rannau personol o'r corff a ddiffinnir yn y Bil?

Ydym

 

Cwestiwn -  A oes gennych unrhyw sylwadau ar y cynigion i roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i orfodi'r darpariaethau, ac i roi'r pŵer i awdurdodau lleol fynd i mewn i fangre, fel y nodir yn y Bil?

 

Cefnogir yr argymhellion. Cydnabyddir y bydd angen cefnogaeth yr Heddlu mewn sefyllfaoedd lle fydd tystiolaeth yn cael ei gasglu yn dilyn honiad o drosedd; oherwydd natur bersonol a sensitif y driniaeth . Dylid sicrhau fod adnoddau digonol ar gael i awdurdodau lleol mewn perthynas â unrhyw ddyletswyddau statudol newydd.

 

Cwestiwn - A ydych yn credu y bydd y cynigion sy'n ymwneud â thriniaethau arbennig a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Ydym.